Y Pwyllgor Menter a Busnes
Ardrethi Busnes
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Diben y papur hwn
1. Mae'r papur hwn yn nodi'r sefyllfa gyfredol o ran y polisi ar ardrethi busnes yng Nghymru ac mae'n cyfeirio at gyfrifoldebau'r gweinidogion ar draws Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau Gweinidogion Llywodraeth Cymru o ran Ardrethi Busnes
2. Fel Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, fi sy’n gyfrifol am bolisi ardrethi busnes yng Nghymru gan gynnwys y berthynas rhwng ardrethi busnes a datblygiad economaidd.
3. Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus sy'n gyfrifol am faterion sy'n ymwneud ag agweddau gweithredol ar ardrethi busnes gan gynnwys casglu ardrethi a gwaith Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Y Gweinidog Cyllid sy'n gyfrifol am y trefniadau ariannol ar gyfer datganoli ardrethi busnes i Gymru. Mae hynny'n cynnwys cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU am drefniadau'r setliad terfynol.
Adroddiad y Panel Ardrethi Busnes, 'Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru'.
4. Sefydlais y Panel Ardrethi Busnes yn 2014. Diben hynny oedd edrych ar yr amryfal argymhellion a gyflwynwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ardrethi Busnes ac i ystyried dull strategol o fynd i'r afael ag ardrethi busnes yn dilyn datganoli. Cyflwynodd y Panel ei adroddiad ym mis Chwefror. Mae'r papur hwnnw wedi'i ddosbarthu ymhlith Aelodau'r Cynulliad ac rydw i wedi gofyn am sylwadau ar yr adroddiad. Mae'r adroddiad ar gael yma: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/policy/business-rates/?skip=1&lang=cy
5. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys 13 o argymhellion ar y prif faterion ac yn nodi dull strategol ynghyd â’r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir. Dyma rai o'r prif bwyntiau:
a. Yn y tymor byr, mae angen system sefydlog,
b. Mae datganoli ardrethi busnes yn rhoi cyfle inni wneud y system yn gydnaws mewn modd sy'n adlewyrchu polisi ond ni ddylai ardrethi busnes fod yn ateb i bopeth,
c. Mae newid ardrethi busnes yn gostus a gall y gost fod yn sylweddol Mae'r Panel yn nodi bod gan ardrethi busnes rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Wrth benderfynu ar gyflwyno newidiadau i'r system honno, bydd angen ystyried hynny,
d. Bydd o fantais sicrhau bod y system yn gydnaws i raddau â'r system sy'n bodoli yn Lloegr a dylid gosod terfynau uchel ar gyfer newid y system yng Nghymru,
e. Ar gyfer y tymor canolig, mae'r Panel wedi argymell adolygiad cynhwysfawr o'r rhyddhad ar ardrethi a'r esemptiadau,
f. Yn y tymor hir, ac yn dilyn uno'r awdurdodau lleol, mae'r Panel wedi argymell y dylid ystyried cadw ardrethi busnes yn lleol.
Y Camau Nesaf
6. Edrychaf ymlaen at glywed barn y Pwyllgor ar yr argymhellion a wneir yn yr adroddiad hwn. Byddaf yn llunio amserlen ar gyfer y camau y bydd angen eu cymryd yn y dyfodol er mwyn datblygu'r system gywir ar gyfer Cymru.